Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau cyfreithiol i unigolion, teuluoedd a busnesau. P’un a ydych yn prynu neu’n gwerthu cartref, yn delio ag ystâd rhywun sydd wedi marw, yn gwneud Ewyllys neu Atwrneiaeth Arhosol, yn wynebu mater teuluol neu briodasol, neu angen cyngor ynghylch anghydfod, mae ein tîm profiadol yma i helpu.
Mae ein harbenigedd hefyd yn ymestyn i drafodion a phrydlesi eiddo masnachol, materion y Llys Gwarchod ac achosion gofal plant, gan ein galluogi i gefnogi ein cleientiaid drwy lawer o’r materion cyfreithiol y gallant ddod ar eu traws ar wahanol adegau o’u bywydau personol a phroffesiynol.
Beth bynnag yw natur eich mater, mae ein dull gweithredu yn syml: deall beth sy’n bwysig i chi, egluro eich opsiynau yn glir a darparu cyngor ymarferol a meddylgar. Archwiliwch ein gwasanaethau isod i ddysgu mwy am sut y gallwn helpu.
Rydym yn arwain ysgutorion a gweinyddwyr trwy’r broses o brofiant, o gael y Grant Profiant neu Lythyrau Gweinyddu hyd at gasglu a dosbarthu’r ystâd. Rydym yn ymdrin â’r gwaith papur a gohebiaeth â CThEM a deiliaid asedau, gan eich diweddaru drwy gydol y broses.
Rydym yn gweithredu ar ran prynwyr, gwerthwyr, a’r rhai sy’n ail-forgeisio eiddo preswyl, gan ymdrin â chwiliadau, cytundebau, a ffurfioldebau’r Gofrestrfa Tir. Ein nod yw cadw’ch trafodiad i symud yn ei flaen, gan ddarparu diweddariadau clir bob cam o’r ffordd.
Gallwn gynghori busnesau a buddsoddwyr ar brynu, gwerthu, a prydlesu eiddo masnachol, gan gynnwys diwydrwydd dyladwy, negodi telerau, a chofrestru’ch buddiant yn y Gofrestrfa Tir a Thŷ’r Cwmnïau.
Gallwn gynorthwyo teuluoedd a gweithwyr proffesiynol i wneud cais i’r Llys Gwarchod pan fo rhywun wedi colli’r gallu meddyliol i reoli ei faterion ei hun, gan gynnwys ceisiadau am ddirprwyaeth a phenderfyniadau unigol ynghylch eiddo, cyllid, neu les.
Rydym yn cynrychioli cleientiaid mewn amrywiaeth o anghydfodau sifil, gan anelu at ddatrys materion yn effeithlon lle bo modd, a rhoi cyngor clir ac ymarferol ar eich opsiynau, boed hynny’n negodi, gyfryngu, neu achos llys.
Gallwn eich helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol gydag Ewyllys wedi’i llunio’n gywir yn ogystal ag Atwrneiaethau Arhosol, gan roi eglurder i chi a’ch teulu dros eich dymuniadau ar gyfer eich cyllid a’ch penderfyniadau iechyd a lles.
Rydym yn cynghori ar agweddau ymarferol a chyfreithiol bywyd teuluol, o drefniadau ar gyfer plant i newidiadau ehangach mewn amgylchiadau personol, gyda chyngor sensitif a phendant bob cam o’r ffordd.
Os yw eich plentyn wedi’i gymryd i ofal, neu os yw gwasanaethau plant yr awdurdod lleol yn ymchwilio eich amgylchiadau, gallwn helpu. Mae aelodau o’n tîm ar Banel Plant Cymdeithas y Gyfraith ac ar gael i gynrychioli rhieni ac aelodau o’r teulu mewn achosion gofal. Mae cymorth cyfreithiol ar gael mewn rhai achosion penodol.
Gallwn gynghori ar ysgariad, gwahanu, a’r materion ariannol ac eiddo sy’n gysylltiedig â hynny, gan weithio tuag at ganlyniadau teg ac ymarferol i chi a’ch teulu.